Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 25 Mehefin 2013

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(141)v4

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Adolygu’r cyllid sydd ar gael i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru : Adroddiad cyntaf (30 munud)

</AI3>

<AI4>

4 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Anghenion Dysgu Ychwanegol - i’w gyflwyno fel Datganiad Ysgrifenedig 

</AI4>

<AI5>

5 Dadl: Y Papur Gwyn ynghylch Tai – Y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu’r Papur Gwyn (60 munud) 

NDM5271 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ar hyn o bryd i helpu pobl i fyw mewn tai gweddus a fforddiadwy;

2. Yn nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu’r camau a amlinellir yn y Papur Gwyn ynghylch Tai a’r ffaith bod Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau o ran y cyflenwad tai fforddiadwy a sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto;

3. Yn cydnabod rhaglen Llywodraeth Cymru i gyflenwi mwy o dai a chymryd camau eraill a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Gellir gweld y Papur Gwyn ynghylch Tai "Cartrefi i Gymru: Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell" drwy ddilyn y linc ganlynol: http://cymru.gov.uk/docs/desh/consultation/120521whitepapercy.pdf

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 1 dileu popeth ar ôl ‘sylweddol' a rhoi yn ei le ‘sy’n wynebu cyflenwyr tai a sefydliadau eraill yng Nghymru ers datganoli i helpu pobl i fyw mewn tai gweddus a fforddiadwy;’

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn mynegi pryder am fethiant Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r cynllun NewBuy Cymru, sy'n cosbi’r rheini sy’n prynu ty am y tro cyntaf yng Nghymru ac yn rhoi pobl sy’n prynu tai ac yn adeiladu tai o dan anfantais yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi’r amcangyfrif gan Brif Weinidog Cymru bod angen 20,000 i 25,000 yn ychwanegol o gartrefi un a dwy ystafell wely i liniaru ar effeithiau’r newidiadau i’r budd-dal tai.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu wrth y diffyg cynnydd gydag agweddau anneddfwriaethol y Papur Gwyn ynghylch Tai a’r nifer bychan o dai newydd sydd wedi cael eu hadeiladu yng Nghymru;

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun integredig i fynd i’r afael â mater cartrefi gwag yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Cartrefi Gwag genedlaethol ar gyfer Cymru.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud drwy’r cynllun achredu cenedlaethol ‘Cynllun Achredu Landlordiaid Cymru’ i gydnabod landlordiaid da a gwella’r cyflenwad o lety o ansawdd da ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r gwaith o drwyddedu asiantaethau gosod tai yng ngoleuni’r cynnydd o 9% mewn cwynion am asiantaethau gosod tai oddi wrth landlordiaid a thenantiaid yn 2012.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl ‘cydnabod’ a rhoi yn ei le 'angen Llywodraeth Cymru i gyflwyno Rhaglen Marchnad Gyfan i gyflenwi mwy o gartrefi a chymryd camau eraill a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.’

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Arolwg Tai Cymru i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth am broffil cartrefi a'r stoc tai yng Nghymru, i helpu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a monitro polisïau tai Llywodraeth Cymru.

Gwelliant 9 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prynwyr tro cyntaf yn gallu manteisio ar gynlluniau priodol sydd wedi’u sefydlu i’w helpu i allu fforddio cartrefi.


 

</AI5>

<AI6>

6 Dadl: Gofal Sylfaenol a’r Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal (60 munud) 

NDM5272 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod rôl hanfodol gofal sylfaenol o ran llunio a chyflenwi gwasanaethau iechyd yng Nghymru ac o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ar gyflwyno moratorium ar ddatblygu cynlluniau gofal sylfaenol newydd.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r cynnig gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu am dimau o weithwyr meddygol proffesiynol o dan arweiniad meddygon teulu i ddarparu gofal drwy'r dydd a'r nos i rai cleifion sydd â chyflyrau cronig difrifol.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod gwasanaeth gofal cymdeithasol effeithiol yn gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau bod pobl yn gallu rheoli cyflyrau cronig yn y gymuned ac yn gresynu wrth y rhwystrau artiffisial sy’n parhau rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd recriwtio a chadw meddygon ar gyfer darparu gofal sylfaenol mewn ardaloedd gwledig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro a chyhoeddi nifer y meddygon sy'n cael eu recriwtio drwy'r ymgyrch Gweithio dros Gymru.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder am brinder deintyddion y GIG yng Nghymru sy'n derbyn cleifion newydd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad o nifer y bobl nad ydynt yn gallu cael gafael ar ddeintydd y GIG yn eu hardal, i ganfod lle mae problemau lleol yn bodoli.

</AI6>

<AI7>

Cyfnod Pleidleisio

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 26 Mehefin 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>